2015 Rhif 1403 (Cy. 139)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 1 o Fesur Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2010 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth ar gyfer ymgysylltiad cymunedau â gwarediad gan awdurdod lleol o dir sy’n gae chwarae neu’n ffurfio rhan o gae chwarae. 

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r penderfyniad gan awdurdod lleol i waredu caeau chwarae sy’n bodloni’r diffiniad a nodir yn rheoliad 2, sy’n dod o fewn rheoliad 3 ac nad ydynt yn dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau yn rheoliad 4.

Mae rheoliad 3 yn darparu bod y gofynion yn rheoliadau 5 i 10 yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn ystyried gwneud penderfyniad i waredu cae chwarae neu unrhyw ran o gae chwarae, neu’n ystyried gwneud penderfyniad i ymrwymo i gytundeb i waredu cae chwarae neu unrhyw ran o gae chwarae. Ni fyddai’r gofynion yn gymwys oni fo’r cae chwarae dan sylw wedi ei ddefnyddio gan y cyhoedd fel cyfleuster chwaraeon neu hamdden ar unrhyw adeg yn ystod y 5 mlynedd cyn ei waredu. Fodd bynnag, mae rheoliad 3(c) yn darparu nad yw’r gofynion yn rheoliadau 5 i 10 yn gymwys pan fo unrhyw un neu ragor o’r eithriadau yn rheoliad 4(1) yn gymwys.

Os caniatáu buddiant yn y cae chwarae yw’r gwarediad dan sylw, nad yw’n cael effaith andwyol ar ddefnyddio’r cae chwarae, nid yw’r gofynion  ar gyfer ymgynghori, hysbysu a gwneud penderfyniad y darperir ar eu cyfer yn rheoliadau 5 i 10 o’r Rheoliadau yn gymwys. Yn yr un modd, nid yw’r gofynion hyn yn gymwys pan waredir y cae chwarae i awdurdod lleol arall neu i gorff chwaraeon neu hamdden ac y bydd y cae chwarae yn cael ei gadw at ddefnydd chwaraeon neu hamdden. 

Nid yw’r gofynion yn rheoliadau 5 i 10 o’r Rheoliadau yn gymwys pan fo ymgynghoriad wedi ei gynnal mewn cysylltiad â chynigion penodol yn ymwneud â threfniadaeth ysgolion o dan Ran 3 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

Yn yr un modd, nid ydynt yn gymwys i unrhyw warediadau sydd yn yr arfaeth ar yr adeg pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym.

Mae’r gofynion yn rheoliad 5 yn ymwneud â’r trefniadau hysbysu ac ymgynghori y mae’n rhaid eu dilyn cyn gwneud unrhyw benderfyniad i waredu cae chwarae neu unrhyw ran o gae chwarae, neu ymrwymo i gytundeb i waredu cae chwarae neu unrhyw ran o gae chwarae.  

Mae rheoliad 5 yn cynnwys dyletswydd ar awdurdodau lleol i anfon manylion am y gwarediad arfaethedig i gyrff penodedig. Mae’r cyrff hyn yn cynnwys:

·             y National Playing Fields Association (a adwaenir ar hyn o bryd fel Meysydd Chwarae Cymru);

·             cyrff sydd â buddiant mewn gwarchod mannau agored ledled Cymru (fel yr Open Spaces Society); a

·             cyrff sydd â buddiant mewn gwarchod cyfleoedd chwarae i blant ledled Cymru (fel Chwarae Cymru).

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sicrhau bod y manylion hyn yn cynnwys gwybodaeth am yr effaith yr ystyria’r awdurdod lleol y byddai’r gwarediad yn ei chael ar amryw o strategaethau, cynlluniau ac asesiadau. Caiff hyn gynnwys gwybodaeth ynghylch yr effaith a gâi’r gwarediad ar lwyddo i weithredu neu gyflawni unrhyw strategaeth, cynllun neu asesiad perthnasol.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i’r holl sylwadau sy’n dod i law yn ystod y cyfnod ymgynghori, ac mae hefyd yn galluogi’r awdurdod lleol i roi sylw i unrhyw sylwadau sy’n dod i law ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori.

Mae rheoliad 8 yn gymwys pan fo awdurdod lleol wedi penderfynu bwrw ymlaen â phenderfyniad i waredu cae chwarae neu unrhyw ran o gae chwarae.  Rhaid cydymffurfio â gofynion rheoliad 8 cyn y bydd awdurdod lleol yn gwaredu caeau chwarae neu unrhyw ran o gae chwarae, neu’n ymrwymo i gytundeb i waredu caeau chwarae neu unrhyw ran o gae chwarae.  Mae rheoliad 8(9) yn gosod gofynion ar awdurdod lleol pan fo wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â gwarediad. 

Mae rheoliad 9 yn darparu y caiff cyfathrebiadau o dan y Rheoliadau hyn fod ar ffurf electronig. Ystyrir bod unrhyw gyfathrebiad electronig o’r fath a geir y tu allan i oriau swyddfa arferol y derbynnydd wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf. Diffinnir diwrnod gwaith yn rheoliad 9(4) ac mae’n cynnwys gŵyl banc a ddiffinnir ymhellach fel diwrnod sydd i’w drin felly o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971. Mae hyn yn cynnwys pob gŵyl banc a bennir yn Atodlen 1 i’r Ddeddf honno ac unrhyw ddiwrnod a bennir fel gŵyl banc drwy broclamasiwn brenhinol o dan adran 1(3) o’r Ddeddf honno. 

Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

2015 Rhif 1403 (Cy. 139)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015

Gwnaed                               22 Mehefin 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       24 Mehefin 2015

Yn dod i rym                            1 Hydref 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 1 o Fesur Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2010([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015, a deuant i rym ar 1 Hydref 2015.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cae chwarae” (“playing field”) yw’r cyfan o fan agored sy’n cwmpasu o leiaf un llain chwarae;

ystyr “y cyfnod ymgynghori” (“the consultation period”) yw’r cyfnod a bennir gan awdurdod lleol yn unol â rheoliad 5(2)(c) a (5);

ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013([2]);

ystyr “gwaredu” (“dispose”) yw rhoi unrhyw ystâd neu fuddiant mewn tir, ac mae “gwarediad” (“disposal”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “llain chwarae” (“playing pitch”) yw man wedi ei amlinellu y mae ei arwynebedd, ynghyd ag unrhyw redegfa iddo—

(a)     yn 0.2 hectar neu fwy ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwaraeon gan gynnwys pêl-droed, pêl-droed Americanaidd, rygbi, criced, hoci, lacrós, rownderi, pêl fas, pêl feddal, pêl-droed Awstralaidd, pêl-droed Wyddelig, bando, hyrli, polo, polo beiciau, athletau neu golff, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt;

(b)     yn 0.1 hectar neu fwy ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwarae bowls; neu

(c)     yn 0.04 hectar neu fwy ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwarae pêl fasged, pêl rwyd neu dennis;

ystyr “penderfyniad arfaethedig i waredu” (“proposed decision to dispose”) yw pan fo awdurdod lleol yn ystyried gwneud penderfyniad i ymrwymo i gytundeb i waredu, neu yn absenoldeb cytundeb o’r fath, yn ystyried gwneud penderfyniad i waredu; ac

ystyr “penderfyniad i waredu” (“decision to dispose”) yw pan fo awdurdod lleol([3]) yn penderfynu ymrwymo i gytundeb i waredu, neu yn absenoldeb cytundeb o’r fath, yn penderfynu gwaredu.

Cymhwyso

3. Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â’r gofynion sydd yn rheoliadau 5 i 10—

(a)     mewn perthynas â phenderfyniad arfaethedig i waredu cae chwarae neu unrhyw ran o gae chwarae;

(b)     pan fo’r cae chwarae wedi ei ddefnyddio gan y cyhoedd fel cyfleuster chwaraeon neu hamdden ar unrhyw adeg yn ystod y 5 mlynedd blaenorol; ac

(c)     pan na fo unrhyw un o’r eithriadau yn rheoliad 4(1) yn gymwys.

Eithriadau

4.(1)(1) Nid yw’r gofynion sydd yn rheoliadau 5 i 10 yn gymwys—

(a)     pan fo’r penderfyniad arfaethedig i waredu yn ymwneud â rhoi buddiant yn y cae chwarae, neu unrhyw ran o’r cae chwarae, nad yw’n cael effaith andwyol ar ddefnydd y cyhoedd o’r cae chwarae fel cyfleuster chwaraeon neu hamdden;

(b)      pan fo’r cae chwarae i’w gadw fel cyfleuster chwaraeon neu hamdden at ddefnydd y cyhoedd, pa un a godir tâl am y defnydd hwnnw ai peidio, ac mae’r gwarediad arfaethedig i’w wneud i—

                           (i)    awdurdod lleol;  neu

                         (ii)    corff y mae ei nodau neu ei amcanion yn cynnwys hyrwyddo gweithgareddau chwaraeon neu hamdden;

(c)     pan fo cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol wedi ymgynghori ynglŷn â’r penderfyniad arfaethedig i waredu’r cae chwarae o dan adran 48(2) o Ddeddf 2013;

(d)     pan fo Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ynghylch y penderfyniad arfaethedig i waredu’r cae chwarae o dan adran 72(1) o Ddeddf 2013; neu

(e)     pan fo’r penderfyniad arfaethedig i waredu cae chwarae neu unrhyw ran o gae chwarae yn yr arfaeth.

(2) At ddibenion paragraff (1)(e), mae penderfyniad arfaethedig i waredu yn yr arfaeth—

(a)     pan fo’r awdurdod lleol wedi cyhoeddi hysbysiad am warediad yn unol ag adran 123(2A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972([4]) cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym; a

(b)     pan fo’r awdurdod lleol yn ymrwymo i gytundeb i waredu, neu’n cwblhau’r gwarediad, o’r cae chwarae y cyfeirir ato yn yr hysbysiad hwnnw o fewn 12 mis ar ôl i’r hysbysiad hwnnw gael ei gyhoeddi gyntaf.

Trefniadau hysbysu ac ymgynghori

5.(1)(1)Rhaid i awdurdod lleol, cyn gwneud penderfyniad i waredu cae chwarae, neu unrhyw ran o gae chwarae, gyhoeddi hysbysiad (“yr hysbysiad”) am ddwy wythnos yn olynol mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yn ardal yr awdurdod lleol.

(2) Rhaid i’r hysbysiad y mae paragraff (1) yn cyfeirio ato—

(a)     datgan bod yr awdurdod lleol yn bwriadu gwaredu cae chwarae;

(b)     hysbysu’r cyhoedd ym mha le neu leoedd ac ar ba adegau y caniateir edrych ar fanylion y gwarediad arfaethedig, ac am ba gyfnod y bydd manylion y gwarediad arfaethedig ar gael i edrych arnynt; ac

(c)     hysbysu’r cyhoedd o’i hawl i gyflwyno sylwadau i’r awdurdod lleol mewn perthynas â’r gwarediad arfaethedig, drwy ba fodd y mae’n rhaid iddo wneud hynny ac erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gael unrhyw sylwadau.

(3) Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod manylion y gwarediad arfaethedig ar gael i edrych arnynt yn ystod oriau swyddfa arferol ym mhrif swyddfa’r awdurdod lleol, os oes un ganddo, ac os yw’n rhesymol ymarferol, mewn un neu ragor o leoedd yn ardal yr awdurdod lleol.

(4) Rhaid i’r awdurdod lleol bennu cyfnod o 6 wythnos o leiaf, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad gyntaf, pan fo’n rhaid i fanylion y gwarediad arfaethedig fod ar gael i edrych arnynt yn unol â pharagraff (2)(b).

(5) Rhaid i’r dyddiad a bennir gan yr awdurdod lleol fel y dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid iddo gael sylwadau ar y gwarediad arfaethedig yn unol â pharagraff (2)(c), fod o leiaf 6 wythnos ar ôl y dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad gyntaf.

(6) Heb fod yn hwyrach na’r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad gyntaf, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)     arddangos copi o’r hysbysiad mewn o leiaf un lle ar y cae chwarae neu gerllaw’r cae chwarae y mae’r gwarediad arfaethedig yn ymwneud ag ef, a pha un bynnag wrth bob mynedfa swyddogol i’r cae chwarae, am o leiaf 6 wythnos;

(b)     pan fo gan yr awdurdod lleol wefan, rhoi copi o’r hysbysiad hwnnw ar y wefan honno am o leiaf 6 wythnos;

(c)     anfon copi o’r hysbysiad at unrhyw berchennog neu feddiannydd tir sy’n ffinio â’r cae chwarae;

(d)      anfon copi o’r hysbysiad a manylion y gwarediad arfaethedig at—

                           (i)    unrhyw awdurdod lleol y mae ei ardal yn cynnwys unrhyw ran o’r cae chwarae y mae’r gwarediad arfaethedig yn ymwneud ag ef neu sy’n rhannu ffin ag unrhyw ran o gae o’r fath;

                         (ii)    Cyngor Chwaraeon Cymru([5]);

                       (iii)    y National Playing Fields Association([6]);

                        (iv)    y personau hynny y mae’n ymddangos i’r awdurdod lleol eu bod yn cynrychioli buddiannau personau yn ardal yr awdurdod lleol, neu yn ardal awdurdod lleol sy’n rhannu ffin ag unrhyw ran o’r cae chwarae, sy’n gwneud defnydd o’r cae chwarae;

                          (v)    unrhyw gorff y mae ei brif amcanion yn cynnwys gwarchod—

(aa)        mannau agored ledled Cymru; neu

(bb)        cyfleoedd i chwarae ar gyfer plant ledled Cymru;

                        (vi)    unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod.

(7) Rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu copi o’r manylion am y gwarediad arfaethedig i unrhyw berson (ar ôl talu ffi resymol, os yw hynny’n ofynnol gan yr awdurdod lleol) y mae’r awdurdod lleol yn cael cais ganddo yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Asesu’r effaith

6.(1)(1) Rhaid i fanylion y gwarediad arfaethedig, a gaiff eu paratoi gan awdurdod lleol at ddibenion rheoliad 5(2)(b), (3), (4), (6)(d) a (7), gynnwys gwybodaeth am yr effaith y byddai’r gwarediad arfaethedig o gae chwarae, neu unrhyw ran o gae chwarae, yn ei chael ar unrhyw strategaethau, cynlluniau neu asesiadau perthnasol, ym marn yr awdurdod lleol.

(2) Y strategaethau, cynlluniau neu asesiadau perthnasol at ddibenion paragraff (1) yw—

(a)     y cynllun a luniwyd ar gyfer yr ardal o dan adran 62 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004([7]);

(b)     yr asesiad a luniwyd ar gyfer yr ardal o dan adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010([8]);

(c)      y strategaeth a luniwyd ar gyfer yr ardal o dan adran 39 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009([9]);

(d)     y strategaeth a luniwyd ar gyfer yr ardal o dan adran 40 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([10]); ac

(e)     unrhyw strategaethau, cynlluniau neu asesiadau eraill ag sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol.

Ystyried sylwadau

7.(1)(1) Rhaid i’r awdurdod lleol ystyried yr holl sylwadau a ddaw i law yn ystod y cyfnod ymgynghori mewn perthynas â’r penderfyniad arfaethedig i waredu.

(2) Caiff yr awdurdod lleol ystyried unrhyw sylwadau a ddaw i law ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori mewn perthynas â’r penderfyniad arfaethedig i waredu.

Penderfynu

8.(1)(1) Os bydd yr awdurdod lleol, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau y mae’n ofynnol iddo eu hystyried neu y mae ganddo bŵer i’w hystyried o dan reoliad 7, yn penderfynu bwrw ymlaen â’r penderfyniad i waredu, rhaid i’r awdurdod lleol lunio adroddiad ar y penderfyniad hwnnw (“yr adroddiad ar benderfyniad”).

(2) Rhaid i’r adroddiad ar benderfyniad gynnwys—

(a)     crynodeb o’r sylwadau a ddaeth i law ac a ystyriwyd gan yr awdurdod lleol; a

(b)     y rhesymau dros benderfyniad yr awdurdod lleol.

(3) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r awdurdod lleol benderfynu gwaredu cae chwarae neu unrhyw ran o gae chwarae, rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod lleol (“yr hysbysiad o benderfyniad”) am ddwy wythnos yn olynol mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yn ardal yr awdurdod lleol—

(a)     yn hysbysu’r cyhoedd o benderfyniad yr awdurdod lleol i waredu’r cae chwarae neu ran o gae chwarae; a

(b)     yn hysbysu’r cyhoedd ym mha le neu leoedd ac ar ba adegau y caniateir edrych ar yr adroddiad ar benderfyniad, ac am ba gyfnod y bydd yr adroddiad ar benderfyniad ar gael i edrych arno.

(4) Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod yr adroddiad ar benderfyniad ar gael i edrych arno yn ystod oriau swyddfa arferol ym mhrif swyddfa’r awdurdod lleol, os oes un ganddo, ac os yw hynny’n rhesymol ymarferol, mewn un neu ragor o leoedd yn ardal yr awdurdod lleol.

(5) Rhaid i’r awdurdod lleol bennu cyfnod o 6  wythnos o leiaf, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad o benderfyniad gyntaf, pan fo rhaid i’r adroddiad ar benderfyniad fod ar gael i edrych arno yn unol â pharagraff (3)(b).

(6) Rhaid i’r awdurdod lleol, heb fod yn hwyrach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad o benderfyniad gyntaf—

(a)     arddangos copi o’r hysbysiad o benderfyniad mewn o leiaf un lle ar y cae chwarae neu gerllaw’r cae chwarae y mae’r gwarediad arfaethedig yn ymwneud ag ef, a pha un bynnag wrth bob mynedfa swyddogol i’r cae chwarae, am o leiaf 6 wythnos;

(b)      pan fo gan awdurdod lleol wefan, rhoi copi o’r hysbysiad o benderfyniad a’r adroddiad ar benderfyniad ar y wefan honno am o leiaf 6 wythnos;

(c)      anfon copi o’r hysbysiad o benderfyniad a’r adroddiad ar benderfyniad at unrhyw berson y cafodd yr awdurdod lleol sylw sylweddol ganddo a ystyriwyd gan yr awdurdod lleol yn unol â rheoliad 7.

(7) Rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu copi o’r adroddiad ar benderfyniad i unrhyw berson (ar ôl talu ffi resymol, os yw hynny’n ofynnol gan yr awdurdod lleol) sy’n gofyn am gopi ohono.

(8) Ni chaiff yr awdurdod lleol fwrw ymlaen â’r gwarediad arfaethedig, na chytundeb i waredu, hyd nes bod cyfnod o 12 wythnos wedi mynd heibio o’r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad o benderfyniad gyntaf.

(9) Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r penderfyniad i waredu, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)     llunio adroddiad ar y penderfyniad hwnnw sy’n cydymffurfio â’r gofynion ym mharagraff (2);

(b)     anfon copi o’r adroddiad at unrhyw berson y cafodd yr awdurdod lleol sylw sylweddol ganddo a ystyriwyd gan yr awdurdod lleol yn unol â rheoliad 7 cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r awdurdod lleol wneud y penderfyniad.

Cyfathrebu electronig

9.(1)(1) Pan fo, yn unol â’r Rheoliadau hyn—

(a)     yn ofynnol i awdurdod lleol—

                           (i)    anfon dogfen, copi o ddogfen neu unrhyw hysbysiad at awdurdod lleol neu berson arall; neu

                         (ii)    hysbysu awdurdod lleol neu berson arall o unrhyw fater; a

(b)     gan yr awdurdod lleol neu’r person arall hwnnw gyfeiriad at ddibenion cyfathrebiadau electronig,

caniateir anfon neu wneud y ddogfen, y copi, yr hysbysiad neu’r hysbysu ar ffurf cyfathrebiad electronig.

(2) Yn y Rheoliadau hyn, pan ganiateir i awdurdod lleol neu berson arall gyflwyno sylwadau i’r awdurdod lleol ar unrhyw fater neu unrhyw ddogfennau, caniateir i’r sylwadau hynny gael eu cyflwyno ar ffurf cyfathrebiadau electronig i’r cyfeiriad a ddarperir gan yr awdurdod lleol at y diben hwnnw.

(3) Ystyrir bod unrhyw gyfathrebiad electronig y bydd y derbynnydd yn ei gael yn unol â’r Rheoliadau hyn y tu allan i’w oriau swyddfa arferol wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf.

(4) Yn y rheoliad hwn—

mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000([11]); ac

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, noswyl y Nadolig, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith, gŵyl y banc neu ddiwrnod a bennwyd ar gyfer diolchgarwch neu alar cyhoeddus (ac ystyr “gŵyl y banc” (“bank holiday”) yw diwrnod sydd i’w drin felly o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971([12])).

Canllawiau

10. Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru. 


 

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

22 Mehefin 2015

 



([1])           2010 mccc 6.

([2])           2013 dccc 1.

([3])           Mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr ag a ddiffinnir yn adran 1(3) o Fesur Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2010. Mae'n golygu cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, cyngor cymuned (gan gynnwys cyngor tref) ac awdurdod Parc Cenedlaethol.

([4])           1972 p. 80.

([5])           Sefydlwyd gan Siarter Brenhinol dyddiedig 4 Chwefror 1972, gan weithredu o dan yr enw “Chwaraeon Cymru.

([6])           Sefydlwyd yn 1925 ac ymgorfforwyd gan Siarter Brenhinol yn 1933, gan weithredu o dan yr enw “Fields in Trust.

([7])           2004 p. 5. Diwygiwyd adran 62 gan adran 51(2) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (mccc 2) a pharagraffau 4, 5 a 6 o Atodlen 2 iddo.

([8])           2010 mccc 1. 

([9])           2009 mccc 2.

([10])         2006 p. 42.

([11])         2000 p. 7. Yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000, ystyr “electronic communication” yw cyfathrebiad sy'n cael ei drosglwyddo (pa un ai o un person i'r llall, o un ddyfais i'r llall neu o berson i ddyfais, neu i'r gwrthwyneb) - (a) drwy gyfrwng rhwydwaith cyfathrebiadau electronig; neu (b) drwy unrhyw ddull arall ond ei fod ar ffurf electronig o hyd. Diwygiwyd y diffiniad gan adran 406 o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2003 (p. 21) a pharagraff 158 o Atodlen 17 iddi.

([12])         1971 p. 80.